Pa beth yw’r golau mawr a glân
Uwch llewyrch haul y nef?
Pa beth yw sŵn yr hyfryd gân
Gerllaw hen Fethle’m dref?
Angylion nef a ddaeth i lawr
O lys yr uchel Dduw,
I ddatgan geni Ceidwad mawr,
I achub dynol ryw.
A dyna’r gân – “Na foed i’ch bron
Un ofn ar hyn o bryd,
Mynegi ’rwyf newyddion llon
A berthyn i’r holl fyd,
Cans ganwyd Ceidwad teg ei wedd
Yn ninas Dafydd wiw,
Yr hwn yw Crist” – hardd Frenin hedd
A Mab y bythol Dduw.
A hyn yw’r arwydd wrth ba un
Y gwelwch Faban lôr,
Mae wedi ei rwymo’n wael ei lun
A’i ben ar wellt y côr:
Efe yw’r gwaelaf yn y dref,
Ni welwyd ned mor dlawd,
Er hyn i gyd mae’n Frenin nef,
Mae’n Dduw er bod mewn cnawd.
Ar hyn dyrchafodd lleisiau fil
Yn gydgor fwyn i’r gân,
O gariad at y ddynol hil
A mawl i’r Baban glân;
“Gogoniant yn yr uchel nef
I’r Duwdod mawr ei hun,
Tangnefedd ar y ddaear gref
Ewyllys da i ddyn.”
I Faban Mair, a ddaeth yn dlawd
Er dwyn in’ olud nef; –
I’r unig Dduw a ddaeth mewn cnawd,
Dyrchafwn ninnau lef
O fawl – a rhoddwn goron cân
Yn barchus ar ei ben,
Mae’n haeddu y gogoniant glân
A’r moliant byth – Amen.
supported by 6 fans who also own “Pa beth yw’r golau mawr a glân?”
The original CD was one of my first internet purchases around 1999/2000. The only place I could find it was some random music store in Holland, I had to send a check and it took almost 6 months to show up in the mail 😂 Travis Donnell
Former member of Fela Kuti’s Egypt 80 unveils a rich, swinging new record that pulls from jazz and soul in its high-wattage songs. Bandcamp New & Notable Apr 24, 2024